R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A fydd adolygiad Llywodraeth Cymru o broses Adolygu Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol yn ymestyn i geisiadau am bob cyffur nad ydynt wedi'u cymeradwyo gan NICE neu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan eto?OAQ(4)1396(FM)
2. Byron Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu gwasanaethau bws yng Nghymru? OAQ(4)1399(FM)
3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol addysg yng Nghymru? OAQ(4)1388(FM)
4. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod treftadaeth yr iaith Gymraeg yn cael ei dathlu?OAQ(4)1398(FM)
5. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru gyda'r Eisteddfod Genedlaethol?OAQ(4)1402(FM)W
6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am osgoi digwyddiadau na ddylent byth ddigwydd mewn ysbytai? OAQ(4)1395(FM)
7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dargedau perfformiad Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1407(FM)
8. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau gan awdurdodau tân Cymru?OAQ(4)1394(FM)
9. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa adroddiadau ar ddeilliannau y mae'r Prif Weinidog yn eu cael er mwyn asesu'r gwaith o lwyfannu digwyddiadau mawr sy'n cael arian cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)1403(FM)W
10. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau Datganiad yr Hydref Llywodraeth San Steffan? OAQ(4)1401(FM)W
11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â benthyca arian yn anghyfreithlon yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig?OAQ(4)1390(FM)
12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth yw goblygiadau Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU i Gymru? OAQ(4)1406(FM)
13. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Papur Gwyn ar Gynllunio? OAQ(4)1405(FM)W
14. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiad strategaeth Llywodraeth Cymru ar yr iaith Gymraeg?OAQ(4)1393(FM)W
15. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau cydraddoldeb wrth fynd i'r afael â'r angen am dai? OAQ(4)1404(FM)